Effeithlonrwydd Canolig: Cymharu Mewnbynnau ac Allbynnau yn ôl Iaith y Cyfarwyddyd mewn Ysgolion Uwchradd yng Nghymru
2020
Defnyddir dull meta-derfyn i werthuso effeithlonrwydd y modd y caiff mewnbynnau i'r broses addysg eu trosi'n allbynnau, gan ddefnyddio data ar gyfer ysgolion uwchradd yng Nghymru a gafwyd o astudiaeth PISA 2015. Mae effeithlonrwydd ysgolion lle mae'r addysgu'n cael ei wneud drwy gyfrwng
y Saesneg yn cael ei gymharu ag effeithlonrwydd ysgolion cyfrwng Cymraeg. Ar y rhan fwyaf o fesurau, mae mewnbynnau i'r olaf yn gymharol uchel, gan effeithio ar y lefelau effeithlonrwydd a welwyd. Er mwyn gwella sgorau PISA yng Nghymru, mae'n debygol y bydd angen gwella perfformiad ysgolion
cyfrwng Cymraeg, ond mae angen rhoi cydnabyddiaeth bendant i unrhyw gyfaddawdu rhwng gwelliant o'r fath a gwireddu nodau polisi sy'n ehangach na'r rhai a werthusir yn PISA.
- Correction
- Source
- Cite
- Save
- Machine Reading By IdeaReader
0
References
0
Citations
NaN
KQI