Datblygu Athrawon Yfory Gyda'n Gilydd: Partneriaeth Addysg Gychwynnol i Athrawon CaBan

2020 
Yn y papur hwn rydym yn amlinellu'r athroniaeth a'r gwaith ymchwil sy'n sylfaen i ddatblygiad CaBan – Partneriaeth Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) a ddatblygwyd er mwyn addysgu athrawon yfory yng ngogledd Cymru. Mae CaBan yn 'bartneriaeth ddysgu' uchelgeisiol sy'n cynnwys pum partner – ysgolion rhanbarthol, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caer, y gwasanaeth gwella ysgolion rhanbarthol (GwE), a'r Sefydliad Cydweithredol dros Ymchwil Addysg, Tystiolaeth ac Effaith (CIEREI). Mae pob partner yn gwneud cyfraniad allweddol at wireddu ein huchelgais i gyfrannu at Genhadaeth Ein Cenedl a chyflawni ein gweledigaeth i 'Ddatblygu Athrawon Yfory Gyda'n Gilydd.' Nod sylfaenol CaBan yw cynorthwyo ein Hathrawon Cyswllt newydd i fod yn athrawon creadigol, hynod fedrus sy'n ysbrydoli, a fydd yn cyfrannu at y gwaith o gyflwyno Cwricwlwm i Gymru – cwricwlwm am oes (Llywodraeth Cymru, 2015). Mae'r papur hwn yn amlinellu: (i) ein gweledigaeth a chenhadaeth sylfaenol fel partneriaeth ddysgu; (ii) y dystiolaeth i gefnogi ein saf bwynt addysgegol strategol ar gyfer datblygu athrawon yfory; (iii) cyfraniad hanfodol mentora at ddatblygiad ein Hathrawon Cyswllt fel ymarferwyr adfyfyriol beirniadol; (iv) sut rydym yn integreiddio ymchwil fel elfen hanfodol o'n holl waith; (v) sut mae dyluniad ein rhaglen yn seiliedig ar y cysyniad o ymholiad proffesiynol a dysgu proffesiynol gydol gyrfa yr unigolyn; (vi) y dulliau dysgu penodol sy'n meithrin ymdeimlad Athrawon Cyswllt o'u 'hunaniaeth addysgu'; a (vii) pwysigrwydd diwylliant Cymru a'r iaith Gymraeg mewn addysg, a chyfraniad partneriaeth CaBan at ddatblygu gallu er mwyn helpu i wireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
    • Correction
    • Source
    • Cite
    • Save
    • Machine Reading By IdeaReader
    0
    References
    0
    Citations
    NaN
    KQI
    []