Defnyddio Dull Rhuglder Cyfarwyddiadol i Addysgu Sgiliau Adio mewn Uned Cyfeirio Disgyblion: Astudiaeth Beilot
2020
Mae unedau cyfeirio disgyblion (UCD) yng Nghymru yn cynnig lle i blant sy'n arddangos amrywiaeth o anawsterau na ellir eu rheoli o fewn lleoliad prif ffrwd. Nid yw llawer o'r plant sy'n mynychu UCD yng Nghymru yn datblygu'r sgiliau rhifedd sydd eu hangen arnynt i gefnogi eu dysgu ar
draws y cwricwlwm. Er mwyn ceisio addysgu ac asesu sgiliau adio, asesodd yr awduron effeithiau defnyddio cyfuniad o gyfarwyddyd uniongyrchol (CU) ac addysgu manwl (AM) mewn UCD. Dros chwe wythnos ysgol, buom yn gweithio gyda phump o blant (rhwng 7 a 10 oed) ar sail 1:1 drwy'r cwricwlwm adio
Corrective Mathematics (Engelmann a Carnine, 2005). Yn dilyn pob gwers, cwblhaodd y plant asesiad rhuglder unigol, a oedd wedi'i deilwra i'w hanghenion gan ddefnyddio dulliau AM. Aethom ati i gasglu data llinell sylfaen a dilynol gan ddefnyddio'r Prawf Gallu Mathemategol Cynnar (TEMA-3),
y Prawf Cyflawniad Amrediad Eang (WRAT-4) a'r prawf lleoliad Corrective Mathematics. Cyfwelwyd â'r plant ar ol yr ymyrraeth hefyd er mwyn cael syniad o'u profiad o'r dull. Mae'r canlyniadau'n darparu tystiolaeth i gefnogi'r defnydd o ddull rhuglder cyfarwyddiadol mewn lleoliad
UCD i helpu plant i ddatblygu sgiliau mathemateg cynnar, yn enwedig ar gyfer plant oedd yn ymgysylltu â'r sesiynau'n rheolaidd. Oherwydd maint bach y sampl, mae canlyniadau'r astudiaeth hon yn gyfyngedig o ran y gallu i'w cyffredinoli ond gallant helpu i lywio ymchwil yn y dyfodol sy'n
ymchwilio i strategaethau effeithiol ar gyfer addysgu mathemateg mewn UCD.
- Correction
- Source
- Cite
- Save
- Machine Reading By IdeaReader
34
References
0
Citations
NaN
KQI