Addysgu y Tu Hwnt i'r Ffiniau: Fframwaith Cysyniadol ac Athroniaeth Ddysgu'r Rhaglen Addysg Gychwynnol i Athrawon Arloesol yng Nghymru

2020 
Mae'r papur hwn yn amlinellu datblygiad un rhaglen AGA integredig sy'n arwain at ddau lwybr SAC: Tystysgrif Addysg i Raddedigion Cynradd gyda Chyfoethogi Uwchradd; a Thystysgrif Addysg i Raddedigion Uwchradd gyda Chyfoethogi Cynradd. Mae rhaglen AGA integredig Dysgu Aber+ yn galluogi athrawon i 'addysgu y tu hwnt i'r ffiniau ar gyfer profiad cyfannol'. Mae'r papur yn adolygu fframwaith cysyniadol y rhaglen a'i hathroniaeth ddysgu ac wrth wneud hynny mae'n ystyried yr egwyddorion craidd a ddylanwadodd ar gynllun y rhaglen, fel a ganlyn: Partneriaeth Gynhwysol; Addysgeg Effeithiol; Addysgeg Integredig; Addysgeg Arbenigol ac wedi'i Chyfoethogi; Addysgeg a Rennir ac Adfyfyriol; Diwylliant Ymchwil Gwirioneddol Gydweithredol, Atebolrwydd Democrataidd ac wyth egwyddor yr Athroniaeth Ddysgu. Mae'r papur yn mynd ymlaen i esbonio sut mae'r rhaglen integredig yn cael ei chyflwyno drwy gyfrwng dull hwb clwstwr ar draws 5 rhanbarth hwb yng Nghanolbarth Cymru. Wrth wneud hyn, mae'n amlinellu rol staff y Brifysgol a Phrif fentoriaid a mentoriaid Ysgolion Partner yn ogystal ag isafswm y gofynion ar gyfer athrawon dan hyfforddiant tra'u bod ar brofiad yn yr ysgol. Mae ystyriaeth hefyd yn cael ei rhoi i ddarpariaeth a chefnogaeth cyfrwng Cymraeg yn ogystal â rol ganolog ymchwil o fewn y Bartneriaeth AGA gyfan. Mae'r papur yn cloi drwy ystyried beth sy'n arloesol am y rhaglen a'r manteision sy'n dod i'r athrawon dan hyfforddiant wrth ddilyn y rhaglen.
    • Correction
    • Source
    • Cite
    • Save
    • Machine Reading By IdeaReader
    0
    References
    0
    Citations
    NaN
    KQI
    []